Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS
 Ysgrifennydd Gwladol Cymru
25 Chwefror 2019

Annwyl Ysgrifennydd Gwladol,

Y Pedwerydd Adroddiad Blynyddol ynghylch Gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014

Diolch am eich ymateb dyddiedig 14 Chwefror i wahoddiad y Pwyllgor dyddiedig 5 Rhagfyr 2018; testun siom a phryder i'r Pwyllgor yw nad ydych yn teimlo y byddai'n briodol i chi ymddangos fel rhan o'r ymchwiliad.

 

Y mater y mae'r Pwyllgor am ei drafod yw gweithredu datganoli cyllidol, gan gynnwys adroddiad gweithredu blynyddol Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd gennych ym mis Rhagfyr. Fel y gwyddoch, mae'r adroddiadau hyn yn orfodol o dan Ddeddf Senedd y DU, ac mae a wnelont yn uniongyrchol â chymwyseddau'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.

 

O ystyried rôl yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth, y cyfrifoldeb statudol sydd gennych i adrodd yn flynyddol ar gynnydd, a'ch rôl fel "Cyswllt y Cynulliad" ar gyfer Llywodraeth y DU, mae'r Pwyllgor o'r farn y byddai’n gwbl briodol i chi roi tystiolaeth i'r Cynulliad ynghylch gweithredu datganoli cyllidol yn gyffredinol, a Phedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywodraeth y DU ynghylch Gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014.

 

Mae hyn yn arbennig o wir wrth i'r dasg o weithredu Treth Incwm Cymru agosáu. Gan fod treth incwm yn dreth nas datganolwyd a weinyddir gan CThEM, sef corff sy’n atebol i Senedd y DU, byddai eich tystiolaeth i’r Pwyllgor yn fwy perthnasol ac yn bwysicach fyth.

Rwy'n falch eich bod yn hapus i gwrdd â'r Aelodau yn unigol o ran yr ymchwiliad, ond teimlaf y byddai sesiwn bwyllgor ffurfiol yn fwy priodol, yn fwy tryloyw, ac yn fwy gwerthfawr.

 

Fel Cadeirydd, gallaf gynnig fy sicrwydd personol i chi y byddai'r cwestiynau yn y sesiwn yn berthnasol i ymchwiliad y Pwyllgor. Mae'r Pwyllgor hefyd yn hapus i drefnu cyfarfod yn Llundain neu sesiwn trwy gyswllt fideo i alluogi'r cyfarfod i fynd rhagddo.

 

Edrychaf ymlaen at ymateb prydlon gennych.

 

Yn gywir

Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid